Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 25 Ebrill 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


132(v5)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol.

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

 

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth

(30 munud)

Dogfennau ategol

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Prif Weinidog – 17 Ebrill 2018 (PDF, 140KB)
Ymateb gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor – 25 Ebrill 2018 (PDF, 207KB)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Llywydd – 17 Ebrill 2018 (PDF, 808KB)
Ymateb gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor – 25 Ebrill 2018 (PDF, 169KB)

Adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – Chwefror 2018 (PDF, 2.9MB)

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

(45 munud)

</AI6>

<AI7>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Diwygio llywodraeth leol

(60 munud)

NDM6707 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru – Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl – yw'r trydydd cynnig mewn tair blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.

2. Yn nodi hefyd fod yr awdurdodau lleol yn gweithio tuag y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

3. Yn gresynu fod y cynnig diweddaraf wedi achosi cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff rheng flaen.

4. Yn pryderu am y natur o'r brig i'r bôn gyson o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir gan y diffyg ymgysylltiad ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr wrth baratoi'r papur hwn, yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r costau a’r manteision ar y cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol.

Dogfen Ymgynghori Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl - sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu'r llymder sydd wedi arwain at doriadau enbyd i gyllidebau llywodraeth leol ers sawl blwyddyn, a’r ansicrwydd parhaus y mae cynghorau yn ei wynebu o ran eu sefyllfa ariannol ac ad-drefnu posibl.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: 

Yn gresynu at ddiffyg cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet am bwysigrwydd cynnal perthynas, a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.

</AI7>

<AI8>

8       Dadl Plaid Cymru – Y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren

(30 munud)

NDM6706 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.

2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.


</AI8>

<AI9>

9Dadl Plaid Cymru – Y grant ar gyfer gwisg ysgol

(30 munud)

NDM6709 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu’r grant ar gyfer gwisg ysgol.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i anghenion dysgwyr difreintiedig.

</AI9>

<AI10>

10   Cyfnod Pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

11   Dadl Fer

(30 munud)

NDM6708 David Rees (Aberafan)

Gwead cymdeithasol a lles cymunedau’r cymoedd yn y dyfodol

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Mai 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>